Page images
PDF
EPUB
[merged small][ocr errors]

Khagarawd.

MAE Mr. Theophilus Evans, yn ei Lyfr, a alwodd ef DRYCH Y PRIF OESOEDD, wedi anrhegu y gwerin Gymry á bèr hanes o helyntion ein cyn-dadau, yr hên Frutaniaid: ond ni wnaeth ef ond prin grybwyll am yr oesoedd a ganlynodd wedi i'r Saeson feddiannu y rhan werthfawrocaf o'r ynys, a elwir heddyw Lloegr, a tharfu y gweddillion o'n hynafiaid i'r rhan fynyddig hon o'r deyrnas, a elwir Cymru; yr hon a feddiannasant drwy ymdrech chwerw, er gwaethaf dichellion a chryfder Seisnig, dros o gylch chwe' chant o flynyddoedd.

Ni welodd, ac ni chlywodd y werin Gymreig braidd erioed air yn nghylch y tywysogion a reolasant Gymru yn y cyf

A 2

rung yma, hyd y gwn i; na pha fodd y cyssylltwyd Cymru a'r rhan arall o'r deyrnas dan un reolaeth.

Mi a dybiais mai nid anaddas oedd i ryw un ffurfio swm yr hanes hon mewn byr eiriau, fel y gwelaï y cyffredin Gymru pa fath amserau terfysglyd y bu ein hynafiaid byw ynddynt, dros hir oesoedd, dan eu tywysogion; ac ystyried wrth hyny y rhagorfreintiau godidog yr ydym ni heddyw yn eu mwynhau: pa heddwch a diogelwch sydd yn ein hamgylchu ddydd a nos. Yn yr amseroedd gofidus hyny, ni wyddai gwr wrth gau ei amrantau i gysgu na fyddai ef a'i deulu oll yn gelaneddau meirwon cyn y boreu, a'i holl lafur a'i dda byd wedi eu llwyr ddifa gan dân, a hyny drwy ddwylaw ei gymmydogion, ie, ond odid, ei geraint nesaf.

Y gwybodaeth o Dduw a'i ddeddfau oedd dywyll ac ansicr, crefydd Iesu Grist oedd wedi ei llygru gan ofer draddodiadau a chwedlau celwyddog pabaidd. Cyfreith

iau y wlad yn ddirym i gospi y troseddwr: wedi gwneuthur o ddyn y mawrddrwg, megys lladd ei gymmydog, neu ei golledu am ei dda, os diangai ef i ryw gyssegrle, Mynwent, Eglwys, neu Fonachlog, byddai mewn diogel noddfa, nad allai undyn gymmaint a'i waethygu am werth un o wallt ei ben; ac os yn y diwedd y rho'id rhyw farn arno, ychydig o ddirwy a fyddai yr iawn am einioes dyn! Ac am arian i'r offeiriaid y dadlwythid ef o'i holl droseddiadau, ac y cai ef sicrwydd o hawl yn nheyrnas nefoedd wedi ei holl ysgelerdra a'i ddiffeithdra.

Wrth dremio ar y pethau hyn, ni ddylem ni na chwyno na grwgnach, er y byddo i ni, ond odid, weithiau oddef rhyw driniad, yr hyn a dybiem ei fod yn orthrymder a thrais. Yr ydym oll dan amddiffynfa cyfreithiau iachus; os na chyhudda ein cydwybodau, ni o ryw droseddd, nid ellir dywedyd nad ydyw ein cyflwr yn ddedwydd, wrth ei gymharu a'r oesoedd ansiriol hyny; a chan hyny, nid all neb, wrth ddwys

/

ystyried y bendithion sy'n ein hamgylchu, ond cyfaddef nad ydyw y fantol yn llaes gyda ni, os na annogwn gynddaredd ein cyfreithiau yn ein herbyn ein hunain, drwy eu troseddu. Pa faint mwy ynte y dylai yr hwn sydd ganddo gynnes a diogel feddiant o gyfoeth cymhedrol, ac iechyd, ystyrio gwerthfawrogrwydd ei ragorfreintiau? Gan hyny nid oes achos amgen i'r ddeubarth rhag offrwm eu diolchgarwch beunyddiol i awdwr pob daioni, a thaer erfyn arno am barhau ei fendithion hyn, a'n cadw rhag pob gwrthryfel ac ymryson, a chyfnewidiadau enbyd; ac fel hyn ymroi i fod yn ddeiliaid ffyddlon i'r llywodraeth dan yr hon yr ydym yn byw, yr hyn a fydd yn gyfran fawr o'n hymddygiad megys aelodau o Eglwys Crist.

.

Yr ydym yn darllen Croniclau yr hên Iuddewon gynt, yn yr hen Destament, ac yn cyfrif yr hanesion hyny drwy yr holl ddamweiniau a fynegir ynddynt, megys gwyrthiau a threfniadiau yn deilliaw yn

P

« PreviousContinue »