Page images
PDF
EPUB

union o law yr Hollalluog; a diammeu eu bod felly; ond nid mwy nag yn hanesion cenhedloedd eraill. Y Cymro ystyriol a wél gymmaint o'i ragluniaethol ymyraeth yn hanes ei gyn-dadau ag y mae dichon i neb weled mewn un hanes arall yn y byd. Yn wir, pan fyddwyf fi yn darllen hanes y Groegiaid, Rhufeiniaid, y Cymry, neu ryw genhedloedd eraill, yr wyf yn gweled yno gymmaint o ysgrythyr ag sydd yn yr Hên Destament, yr hwn a ysgrifenwyd gan ddysgedigion ac athrawon Iuddewaidd, er dangos i'w cenedl yn bennaf, ac i'r byd, fod llaw goruwch anian yn trefnu eu hachosion. Ac yn ddiammeu, pan ddarllenom heddyw, hanesion y dyddiau presennol mewn papurau newyddion, ni a ganfyddwn yn eglur yr un goruchwyliaeth yn gweithredu ac yn dwyn ymlaen, megys cynt, achosion i derfynu i ddibenion pwysfawr; a phob amser er rhyw ddaioni cyffredinol a neilltuol. Gan hyny ofer y dywedir i mi fod Duw yn gwneuthur mwy o wyrthiau yn yr hen oesoedd gynt yn mysg cenhedl yr Iuddewon, neu gen

hedloedd eraill, nag y mae yn eu cyflawni ́yn yr oes bresennol: mae ei law ef heddyw mor amlwg ag yn yr oesoedd hyny, pa rai bynnag. Ac mae yn ddiammeu yn gweithio felly mewn achosion neilltuol dyn, cystal a chyffredinol. Dyweded POPE, ac anghredinwyr eraill a fynnant yn wrthwyneb i hyn. Yr wyf fi yn ysbys o hyn, gan i mi weled mor aml ei dadol law Ef mor eglur, yn trefnu mor ryfedd fy namweiniau bychain fy hun.

W. W.

LLANDEGAI,
Medi 13, 1804.

PRYDNAWNGWAITH

Y'

Cymry, &r.

Byr Goffadwriaeth o'r Tywysogion y rhai a reolasant Gymru wedi i'r Saeson erlid ein hynafiaid o'r rhan werthfawrocaf o Frydain i'r rhan fynyddig yma o'r Deyrnas a elwir Cymru.

WEDI i Gadwaladr, y diweddaf dan

enw Brenhin y Brutaniaid, ymsymmud i Lydaw yn Ffraingc rhag difrod gwaedlyd y Saeson, ac rhag y pla dinystriol, yr hwn yr amser hwnw oedd hefyd yn traHlodi Prydain drosti. Efe oedd Dywysog dymmer lonydd a chrefyddol; ond yn amcanu ail ddychwelyd i Frydain gyda llu o wŷr arfog i amddiffyn ei iawn feddiannau. Efe, meddir, a rybuddiwyd drwy weledigaeth na chynnygiai ddychwelyd i Frydain,--fod llywodraeth y Brutaniaid, drwy drefn ragluniaethol, i ddiweddu :

B

fod yn rhaid iddo fyned i Rufain, a derbyn urddau cyssegredig dan ddwylaw y Pab Sergius, a chael ei osod dan drefn ac yn nifer y Mynachod. Yn gyttûn â'r alwad nefol yma efe a wnaeth felly, yn y flwyddyn 686, ar ôl teyrnasu o hono 26 o flwyddi; ac a fu farw yn Rhufain yn y flwyddyn 703. Efe a gladdwyd wrth y bedd yn yr hwn y dywed y Rhufeinwyr fod yr Apostol St. Petre yn gladdedig ynddo. Bedd Cadwaladr a agorwyd yn amser y Pab Grugor, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1585, ei esgyrn a rhan o'i amdo ef oedd heb lygru; y brethyn a gedwir etto, ac a berchir yn fawr gan y Pabyddion. Peth rhyfedd a dieithrol, fod esgyrn a llwch cnawd y llywydd hwn i'w canfod y dydd hwn, ar ol gorwedd yn gladdedig dros un cant a'r ddeg o flynyddoedd. Dywedwyd pan ddygid ei esgyrn eilwaith i Frydain yr adferid y llywodraeth yn ôl i'r Cymry; mae hyny wedi digwydd eisoes, fal y mae nid yn unig ei esgyrn ond ei gnawd a'i waed mewn bywyd etto yn nghorph Siôr y

trydydd, Brenhin Prydain fawr, yn ddilynol o gorph Harri y seithfed, yr hwn oedd ŵyr i Owain Tudur o Fôn, yr hwn oedd yn deilliaw o lwynau Brenhinoedd y Brutaniaid; gan hyny, gorwedded esgyrn yr hên Gadwaladr yn y lle eu gosodwyd, ni wnant y gymwynas leiaf i blant yr hên Gymry.

Cadwaladr a sylfaenodd Yspytty yn Rhufain i dderbyn ac i gynnal pererinion Brutanaidd a ymwelai â'r ddinas hono: a pheth sydd dra hynod a rhyfeddol, yr adeiliad hon a'r cynhaliaeth, perthynol iddi, a barhäodd felly hyd amser y diwygiad gan Luther; y pryd y gosodwyd i fynu amryw Ysgolion ac Yspyttai, gan y Jesuitiaid, yn amryw ddinasoedd Ewropawl, i ddwyn i fynu ieuengctyd yn y grefydd Babaidd, yn enwedig y Saeson. Yn y flwyddyn 1579 Ysgol newydd a sylfaenwyd yn Rhufain, gan y Pâb Grugor y 13, i gynnal a dysgu tri ugain o Saeson; yr Yspytty yma o sylfaeniad Cadwaladr, a'r tiroedd a ben-

[ocr errors]
« PreviousContinue »